Cartref City Adult


Hmmm, ble i gychwyn? Cyrhaeddais i gan disgwyl lle hyfryd Cymreig a chartrefol, ond cefais sioc enfawr wrth sylweddoli bod y lle fel America - enfawr, gwastad ac yn llawn llefydd bwyd cyflym ac ardal siopa cymharol diflas a didrefn lle mi oedd hi’n amhosib prynu beic modur a thynodd fy sylw. Mae'r man glanio yn bell o unman, sydd yn iawn, ond ble mae'r arwyddbyst i gyfeirio rhywun at y siopau ayyb? Roedd un peth braf beth bynnag, roeddwn yn falch i weld yr arosfan bws a'r loriau a wnes i ryw ddeuddeg mlynedd yn ôl!
like(0)